Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Adolygiad o’r flwyddyn 

 

Adroddiad blynyddol a datganiad o gyfrifon 2008 – 2009

 

 


Rhagair y Llywydd

 

Eleni, cyrhaeddodd y Cynulliad a Chymru garreg filltir nodedig, sef degawd cyntaf datganoli, pryd y datblygwyd ein cyfansoddiad yn ymarferol. Drwy ein pwyllgorau a’n Cyfarfodydd Llawn, daethom yn fwy effeithiol wrth ddwyn Gweinidogion Cymru i gyfrif. Hefyd, wrth basio’r Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2007, dechreuom ddeddfu ar gyfer Cymru. Mae’r Mesur yn ei gwneud yn haws i gleifion hawlio iawndal os bu’r driniaeth a gafwyd gan GIG Cymru yn esgeulus.

Hwn oedd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth sylfaenol a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol, a’r gyfraith Gymreig gyntaf i’w phasio ers cyfnod y cyfreithiau a gysylltir ag enw Hywel Dda yn y ddegfed ganrif. Hon hefyd oedd y gyfraith ddwyieithog gyntaf erioed i’w phasio ym Mhrydain. Rydym bellach yn ddeddfwrfa weithredol.

Mae pobl Cymru wedi sylwi ar ein datblygiad, ac wedi ymateb yn bositif i’r cynnydd yn nylanwad eu Cynulliad Cenedlaethol. Adlewyrchwyd hyn yng nghanfyddiadau cadarnhaol yr arolwg mwyaf erioed a gynhaliwyd i fesur dealltwriaeth y cyhoedd o dirlun gwleidyddol Cymru. Dangosodd yr arolwg a gomisiynwyd gan y Cynulliad, ac a gyhoeddwyd ym mis Hydref, fod gan bobl ddealltwriaeth gyffredinol gadarn o dirlun gwleidyddol Cymru. Dangosodd hefyd fod dros 70% yn cefnogi datganoli pŵer yn rhannol neu’n llawn i Gymru.

Ond mae llawer o waith i’w wneud o hyd er mwyn cynnwys pobl yn well yn y broses ddemocrataidd ac i sicrhau bod y Cynulliad yn cynrychioli buddiannau holl bobl Cymru. Mae grwpiau yn ein cymdeithas sy’n teimlo nad yw eu llais yn cael ei glywed, a hynny am resymau sy’n amrywio o ymddieithrio cymdeithasol i dlodi, ac mae’n rheidrwydd arnom i fynd i’r afael â’r apathi y mae hyn yn ei fagu.

Dyna pam y cynhelais gyfres o gyfarfodydd eleni â grwpiau sy’n aml yn teimlo nad ydynt yn rhan o’r broses wleidyddol.

 

I ddechrau, aethom i bob rhanbarth etholaethol yng Nghymru i ymweld â chynrychiolwyr o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, yn ogystal â grwpiau o bobl anabl, grwpiau cymunedau ffydd, grwpiau cyfeiriadedd rhywiol a grwpiau o bobl ifanc. Roedd y bwriad yn un syml, sef gweld sut y gallwn wneud y broses ddemocrataidd yn fwy hygyrch i bawb.

 

Mae safbwyntiau a lleisiau’r grwpiau hyn yn allweddol bwysig oherwydd, wrth i ni edrych ymlaen at ddegawd nesaf datganoli, rhaid i ni gofio bod y Cynulliad Cenedlaethol yn prysur ddod yn ganolbwynt i ymdeimlad cyflawn o hunaniaeth Gymreig. Ond rhaid sicrhau bod pawb yng Nghymru’n teimlo perchnogaeth o’r Cynulliad a’i waith.

 

Ein swyddogaeth ni yw cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, deddfu ar gyfer Cymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, ac mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau ein bod yn gwneud hynny gyda dealltwriaeth a chefnogaeth y bobl rydym yn eu cynrychioli.

 

Eleni, gwnaethom ymdrech arbennig i sicrhau bod pobl yn deall pwy ydym ni a’r hyn rydym yn ei wneud ac, yn bwysicach, bod pobl yn teimlo’u bod yn cael eu hannog i ddod yn ddinasyddion gweithredol a gwybodus. Rhaid i bobl weld bod democratiaeth yn perthyn i bawb. Ni all democratiaeth weithio os mai rhywbeth i’r lleiafrif yn unig ydyw, ac rydym wedi ymrwymo i barhau i wneud democratiaeth yn rhywbeth sy’n agored i bawb.

 

Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Elis-Thomas CG AC

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru  

 


 

Rhagarweiniad gan Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

 

Yn ystod y flwyddyn a fu, parhaodd y Cynulliad Cenedlaethol i ddatblygu ei swyddogaeth fel corff seneddol Cymru, ac rwy’n falch o fod yn arwain tîm brwdfrydig ac ymroddedig sydd wedi helpu i gyflawni’r llwyddiannau a amlygir yn yr adroddiad hwn.

 

Mae llywodraethu da ac atebolrwydd yn parhau wrth graidd ein gwaith, ac yn sail i nodau a llwyddiannau’r Cynulliad. Hefyd, rhoddwyd pwyslais ar ddull sy’n wynebu tuag allan, ac sy’n gosod pobl Cymru wrth galon popeth a wnawn.

 

Un o brif amcanion y Cynulliad Cenedlaethol yw helpu pobl i ddod yn ddinasyddion gwybodus a gweithredol, sydd â dealltwriaeth o’r broses ddemocrataidd, ac sy’n cymryd rhan lawn yn y broses o lunio dyfodol Cymru.

 

Er mwyn i bobl wneud penderfyniad gwybodus yn y blwch pleidleisio, rydym yn gwybod ei bod yn bwysig iddynt ddeall y broses ddemocrataidd, deall sut mae’n effeithio arnynt hwy ac, yn bwysicach, deall sut y gallant chwarae rhan weithgar yn y broses honno. Felly, gwnaeth y Cynulliad ymdrech sylweddol eleni i sicrhau bod pobl yn deall swyddogaeth y Cynulliad a sut y gallant ddylanwadu ar y gwaith a wneir gan Aelodau. Yr allwedd i hyn oedd amlygu’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl a chymunedau er mwyn sicrhau bod eu buddiannau’n cael eu cynrychioli’n briodol ac yn gywir.

 

Gyda chefnogaeth ein Comisiynwyr, rydym wedi cryfhau’r sefydliad mewn amryw o feysydd, gan gynnwys dulliau gwell o ran rheoli risg, o ran cynllunio parhad busnes ac o ran cyflwyno rhaglen datblygu arweinwyr gynhwysfawr. Mae gennym dimau ym mhob rhan o’r Cynulliad sy’n llawn pobl ymroddedig a phroffesiynol sydd wedi darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i Aelodau’r Cynulliad gan roi cymorth iddynt gyda’u tair swyddogaeth o gynrychioli pobl Cymru, deddfu ar gyfer Cymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

 

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad blaengar o ran hyrwyddo cydraddoldeb, rhoi gwerth ar amrywiaeth a pharchu hawliau dynol yn ein rôl fel cyflogwr, o ran rhoi cymorth i Aelodau’r Cynulliad, ac o ran ymwneud â’r cyhoedd. Yn ystod y flwyddyn a fu, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth gyflawni ein hamcanion o ran cydraddoldeb, gan gynnwys cyhoeddi cynllun cydraddoldeb a chynllun gweithredu cysylltiedig.

Ym mis Ionawr 2009, o ganlyniad i’n hymrwymiad i gydraddoldeb, cafodd y Cynulliad Cenedlaethol ei enwi fel un o’r cant cyflogwr mwyaf hoyw-gyfeillgar ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2009.

Cafodd y Cynulliad Cenedlaethol hefyd ei enwi fel y cyflogwr a oedd wedi gwella fwyaf yng Nghymru o ran bod yn hoyw-gyfeillgar a’r ail gorau o ran y cyflogwr a oedd wedi gwella fwyaf yn y DU.

Yn y dyfodol, rydym yn bwriadu cyrraedd cynulleidfa ehangach drwy ymwneud mwy â’n holl gymunedau, gan gynnwys defnyddio bws y Cynulliad Cenedlaethol. Byddwn hefyd yn cynnal ein hymrwymiad i arwain drwy esiampl o ran ein trefniadau llywodraethu corfforaethol. Er mwyn cynnal ein hymrwymiad i fod yn sefydliad seneddol agored a thryloyw, byddwn hefyd yn dechrau cyhoeddi treuliau Aelodau’r Cynulliad yn fisol.

 

Drwy weithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, rydym yn bwriadu lansio prosiect Cymru gyfan newydd a chyffrous a fydd yn rhoi cyfle i bobl nad ydynt fel arfer yn cymryd rhan yn y broses wleidyddol i gael profiad o weithio gydag Aelodau’r Cynulliad a’u cynghorwyr lleol.

 

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy’n gweithio i’r Cynulliad, ac i Gomisiynwyr y Cynulliad am eu diwydrwydd a’u gwaith caled wrth roi cymorth a chyngor i Aelodau’r Cynulliad. Dyna sy’n sicrhau ein bod yn gwneud y Cynulliad yn gorff seneddol hygyrch ac effeithiol sy’n ennyn hyder pobl Cymru.

 

Claire Clancy

Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

 


Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn ffigurau

 

23,688         Nifer y plant a gymerodd ran yng ngweithdai addysg y Cynulliad

 

98               Nifer y deisebau a gafwyd yn ystod y flwyddyn  

 

2,500           Nifer y bobl a holwyd fel rhan o arolwg y Cynulliad o ddealltwriaeth pobl o ddatganoli

 

4,425           Nifer y papurau ymchwil a dogfennau ysgrifenedig a luniwyd  gan Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau

 

71               Nifer y Cyfarfodydd Llawn a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn

 

4,990           Nifer y cwestiynau llafar a gyflwynwyd

 

2,242           Nifer y cwestiynau ysgrifenedig a gyflwynwyd

 

85               Nifer y cyfarfodydd Pwyllgorau Deddfwriaeth a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn

 

5                 Nifer y Pwyllgorau Deddfwriaeth a sefydlwyd er mwyn rheoli proses ddeddfu’r Cynulliad

 

257             Nifer y digwyddiadau a gynhaliwyd yn y Senedd yn ystod y flwyddyn

 

8                 Nifer o weithiau y cynhaliwyd balot gan y Llywydd i alluogi Aelodau’r Cynulliad i gynnig cyfreithiau ar gyfer Cymru

 

2,106,100    Nifer y geiriau ysgrifenedig a gyfieithwyd gan wasanaeth cyfieithu’r Cynulliad

 

146,528       Nifer yr ymwelwyr â’r Senedd yn ystod 2008-09

 

95%             Canran y papur a brynwyd gan y Cynulliad a ddaeth o ffynonellau ailgylchu gan gyflenwyr ardystiedig yr FSC 

 

3,000           Nifer y pleidleisiau ar gyfer ‘Cewri Cymru’, a enillwyd gan Ray Gravell

 

4,783,900   Nifer y geiriau a gyhoeddwyd gan Gofnod y Trafodion dros y flwyddyn ddiwethaf

 

 

 


Uchafbwyntiau

 

Ebrill 2008

Agorwyd Siambr Hywel gan y Tywysog Siarl, sef y siambr drafod bwrpasol gyntaf yn Ewrop ar gyfer pobl ifanc.

 

Ebrill 2008

Y Cynulliad yn cyflwyno ei system e-ddeisebu ar-lein, gan arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y deisebau a gyflwynir.

 

6 Mai 2008

Pasiodd y Cynulliad ei gyfraith gyntaf, y Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG - y gyfraith Gymreig gyntaf i gael ei phasio ers y ddegfed ganrif.

 

Awst 2008

Y Cynulliad Cenedlaethol yn penodi panel annibynnol i adolygu cyflogau a lwfansau Aelodau'r Cynulliad.

 

Hydref 2008

Yr arolwg gwleidyddol mwyaf i gael ei gynnal yng Nghymru erioed, a gomisiynwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, yn dangos bod 70 y cant o bobl o blaid datganoli llawn neu rannol i Gymru.

 

Tachwedd 2008

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu Ei Fawrhydi Brenin Letsie III o Lesotho i Fae Caerdydd, fel rhan o fenter i ddatblygu cysylltiadau rhyngseneddol rhwng Cymru a Lesotho.

 

Rhagfyr 2008

Y Llywydd yn croesawu ei gymheiriaid o’r Alban a Gogledd Iwerddon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Daeth William Hay MLA, Llefarydd Cynulliad Gogledd Iwerddon, ac Alex Ferguson MSP, Llywydd Senedd yr Alban, i Fae Caerdydd i ymweld â’r Senedd am y tro cyntaf.

 

Ionawr 2009

Ymwelodd Ei Huchelder Brenhinol Iarlles Wessex â’r Senedd yn ei rôl fel noddwr Mencap. 

 

Ionawr 2009

Enwyd y Cynulliad fel y cyflogwr sydd wedi gwella fwyaf yng Nghymru ym  Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, ac yn un o’r 100 cyflogwr mwyaf hoyw-gyfeillgar yn y DU.

 


Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Sut y mae’r Cynulliad yn gweithio

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i ddwyn llywodraeth Cymru i gyfrif.

 

Aelodau’r Cynulliad

Mae’r Cynulliad yn cynnwys 60 o Aelodau Cynulliad etholedig, sy’n cynrychioli ardaloedd penodol yng Nghymru, a hynny fel aelod o blaid wleidyddol arbennig (y Ceidwadwyr, Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru) neu fel aelodau annibynnol. 

Mae Aelodau’r Cynulliad yn cyfarfod bob wythnos yn ystod y tymor er mwyn trafod materion sydd o bwys i Gymru a’i phobl; maent yn holi Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yn trafod polisïau’r Llywodraeth ac adroddiadau’r pwyllgorau ac yn edrych yn fanwl ar gyfreithiau Cymru.

Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol

Sefydlwyd Comisiwn y Cynulliad ym mis Mai 2007 i sicrhau bod y Cynulliad yn ymgymryd â’i rôl yn effeithiol ac yn effeithlon ac i sicrhau bod gan y Cynulliad yr eiddo, y staff a’r gwasanaethau sydd eu hangen i gyflawni ei amcanion. 

Mae’r Comisiwn yn pennu nodau, safonau, gwerthoedd ac amcanion strategol y corff corfforaethol ac yn ystyried perfformiad yn erbyn y targedau hyn, yn goruchwylio newid ac yn annog arloesedd a mentergarwch ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnwys y Llywydd, a phedwar Aelod Cynulliad arall, a enwebir gan bob un o’r pedwar grŵp gwleidyddol yn y Cynulliad.Mae’r pum Comisiynydd yn atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â swyddogaethau’r Comisiwn. Er mwyn helpu i gyflawni’r swyddogaethau hynny mae’r Comisiynwyr yn gyfrifol am y portffolios trawsbynciol a fanylir isod:

Yn ystod y flwyddyn, cyfarfu’r Comisiynwyr yn ffurfiol ar wyth achlysur i ystyried amrywiaeth o faterion, gan gynnwys cyllideb ddrafft y Cynulliad; newidiadau arfaethedig i’r system technoleg gwybodaeth; Cynllun Cydraddoldeb y Cynulliad; ein Strategaeth Frandio; a chynigion ar gyfer y panel annibynnol a gynhaliodd adolygiad o gyflogau a lwfansau'r Aelodau a chanllawiau ar gyfer Aelodau’r Cynulliad.

Ein hamcanion strategol

Mae Strategaeth ar gyfer y Trydydd Cynulliad y Cynulliad Cenedlaethol yn nodi’n glir ei flaenoriaethau hyd at dymor nesaf y Cynulliad yn 2011.

Y nod cyntaf yw annog mwy o bobl i gymryd rhan fwy ymarferol yn y broses ddemocrataidd.  Mae gweddill yr adroddiad hwn yn egluro sut yr ydym wedi cyflawni hyn drwy sicrhau gwell ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd o sut y mae’r Cynulliad yn gweithio, gwella’r ddealltwriaeth sydd gan bobl o natur y berthynas rhwng y Cynulliad a Llywodraeth Cymru a’r pwyslais a roddwn ar sicrhau bod pobl Cymru yn rhan o’r broses o ddeddfu dros Gymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi sut y mae’r Cynulliad yn ymateb yn feiddgar i’w bwerau newydd. Sefydlwyd pwyllgorau deddfwriaeth parhaol newydd, ehangwyd rôl y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth i ymgymryd â’r gwaith o graffu ar sut y mae’r ffordd y caiff pwerau eu trosglwyddo i Gymru yn ffurfio tirlun cyfansoddiadol Cymru a phasiwyd Mesur dwyieithog cyntaf y Cynulliad. Cyfrannodd yr holl ffactorau hyn at gyflawni’r nod hwn.

Mae cywirdeb a llywodraethu da hefyd yn un o golongfeini gwaith y Cynulliad. Mae adroddiad eleni yn nodi sut y gwnaeth y Comisiwn sefydlu panel annibynnol i adolygu’r cymorth a roddir i Aelodau’r Cynulliad, ac ar gyfer yr adroddiad blynyddol hwn mae’r tîm o Swyddfa Archwilio Cymru wedi ymateb i gais gan ein Prif Weithredwr a’r Swyddog Cyfrifyddu i gynyddu lefel y gwaith archwilio a gynllunnir mewn perthynas â lwfansau’r Aelodau.

Mae’r Cynulliad bron yn unigryw fel corff seneddol, yn ymgymryd â’i holl waith gan ddilyn egwyddorion gweithio cynaliadwy. Adeiladwyd y Senedd gan ddefnyddio deunyddiau a phrosesau cynaliadwy, o’r goleuadau i ailgylchu dŵr glaw i’w ddefnyddio yn yr ystafelloedd ymolchi, ac eleni cawsom lwyddiant wrth gyflawni Lefel 5 System Reoli Amgylcheddol y Ddraig Werdd (sy’n debyg i ISO 14001) ar gyfer yr holl ystâd – y lefel uchaf y gellir ei chyflawni yn y DU. Hefyd, dros y flwyddyn, mae’r Cynulliad wedi gwella ein hôl troed amgylcheddol mewn ffyrdd eraill, gan gynnwys cryfhau’r tîm cynaliadwyedd, gwella ein system rheoli adeiladau – cam a arweiniodd at ostyngiad o chwechy cant yn yr ynni a ddefnyddir a chyflwynwyd system i fesur ein hôl troed carbon mewn perthynas â theithiau busnes.

 

Cyflawnwyd llawer o waith dros y deuddeg mis diwethaf i sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth gorau yn y ffordd fwyaf effeithiol i’n cwsmeriaid. Gan gydnabod y posibilrwydd y bydd cyfyngu ar wariant cyhoeddus, mae angen i ni weithio yn fwy effeithiol ac yn fwy effeithlon, gan ddefnyddio ein hadnoddau a chynllunio yn dda i gyflawni ein blaenoriaethau a dangos ein bod yn sicrhau’r gwerth gorau am arian cyhoeddus.

 

Rhai o’r camau allweddol a gymerwyd gennym yn ystod cyfnod yr adroddiad oedd gweithio tuag at achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl a lansio ein cynllun datblygu arweinyddiaeth. Bydd y camau hyn yn hwyluso’r gwaith o gyflawni ein blaenoriaethau drwy gydol y trydydd Cynulliad.

 

 


 

1. Cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl

 

 

Cynrychioli gwerth am arian 

 

Nid oes unrhyw amheuaeth y caiff y flwyddyn ddiwethaf, ymhen rhai blynyddoedd, ei hystyried yn gyfnod pan gafodd sefydliadau democrataidd y Deyrnas Unedig eu herio i fod yn fwy tryloyw ac yn fwy atebol ac i ymateb yn well i anghenion a disgwyliadau'r etholwyr.

 

Ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei sefydlu fel corff deddfu ar wahân yn 2007, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cadw at ei amcan strategol o fod yn dryloyw ac atebol ac yn agored i’r cyhoedd graffu’n fanwl

arno.

 

Fel rhan o’r ymrwymiad hwn i egwyddorion tryloywder, ym mis Awst 2008, penododd y Cynulliad Cenedlaethol banel adolygu annibynnol, o dan gadeiryddiaeth Syr Roger Jones, i gynnal adolygiad o’r cymorth ariannol a roddir i Aelodau’r Cynulliad. Cylch gwaith y panel oedd adolygu pob agwedd ar y cymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau, gan gynnwys cyflogau a lwfansau teithio, llety, swyddfeydd etholaeth a staff cymorth, ac argymell newidiadau iddynt.

 

Casglodd y panel dystiolaeth fel rhan o’r gwaith adolygu ac ymgynghorodd yn eang, yn breifat ac yn gyhoeddus i glywed barn y cyhoedd, ynghyd â chyfarfod â chynghorau dinas, cynghorau tref, cynghorau cymunedol, sefydliadau sector cyhoeddus eraill, Aelodau’r Cynulliad a Chomisiynydd Safonau Cymru.

 

Cyhoeddwyd adroddiad y panel ar 6 Gorffennaf 2009. Ceir copi o’r adroddiad yma.

 

 

Cynrychioli Cymru pan fydd yn gwneud deddfau ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif

 

Ym mhob agwedd ar ei waith, mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bobl y cyfle i fynegi barn am y gwaith yr ydym yn ei wneud, a phennu cyfeiriad y gwaith hwnnw, a fydd yn effeithio ar eu bywydau o ddydd i ddydd yn y pen draw.

 

Yn ystod haf 2008, cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol arolwg cyhoeddus, gan gynnwys 500 o bobl ifanc rhwng 14 a 16 oed, i gael eu barn am ganiatâd tybiedig i roi organau. Trafodwyd y mater hwn hefyd gan blant ysgol a oedd yn ymweld â Siambr Hywel, ac yna pleidleisiodd y plant ar y cynnig mewn perthynas â’r ddadl gan ddefnyddio’r system bleidleisio electronig. Yn ystod sioeau cenedlaethol Cymru yn yr haf, cafodd y cyhoedd gyfle i gyfleu eu sylwadau ar y mater hwn drwy adael negeseuon fideo yn stondin y Cynulliad. Roedd yr ymatebion i’r adolygiad a chasgliadau’r dadleuon yn gymorth wrth i’r Pwyllgor lunio’i adroddiad terfynol ar y pwnc, a gafodd gryn sylw yn y cyfryngau.

 

Yn yr un modd, pan oedd y Cynulliad yn bwriadu cyflwyno deddf newydd i sicrhau bod bwyd ysgol yng Nghymru yn faethlon ac yn gytbwys, cynhaliwyd ymgynghoriad eang ar Fesur arfaethedig Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2008. Yn ogystal ag annog y cyhoedd a rhanddeiliaid i fynegi barn, cafodd pob ysgol a ymwelodd â’r Cynulliad gyfle i bleidleisio a oeddent yn credu bod angen deddfwriaeth i sicrhau eu bod yn cael prydau iach.

 

Ym mis Chwefror 2009, cynhaliodd y Cynulliad Cenedlaethol ymgynghoriad eang, pan ofynnodd un o’n pwyllgorau deddfwriaeth i bobl Cymru a ddylai’r Cynulliad gael yr hawl i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg, yn hytrach na bod deddfau ar yr iaith yn cael eu pasio yn San Steffan. O ganlyniad i hyn, cafwyd 300 ymateb a oedd yn gymorth i’r Pwyllgor wrth ddod i benderfyniad ar yr angen am ddeddfwriaeth o’r fath.   

 

 

Cynrychioli pobl ifanc Cymru

 

Fel rhan o ymdrechion y Cynulliad i annog pobl ifanc i ddysgu am y broses ddemocrataidd, cafodd cyn siambr drafod y Cynulliad yn Nhŷ Hywel - a enwyd ar ôl Hywel Dda, y Brenin o’r ddegfed ganrif - ei thrawsnewid a’i hail-enwi yn Siambr Hywel ym mis Ebrill 2008. Tybir mai Siambr Hywel yw’r siambr drafod bwrpasol gyntaf yn y byd ar gyfer pobl ifanc. Mae’n cynnig fforwm i bobl ifanc ac yn rhoi cyfle iddynt drafod gan ddilyn yr un rheolau â’r rhai sy’n rheoli trafodion y Cynulliad, lle bydd pobl ifanc yn gwneud cais i siarad ac yna cânt eu galw mewn trefn.

 

Mae ymgynghori â phobl ifanc yn rhan ganolog o’n gweithgareddau yn Siambr Hywel, ond mae hefyd wedi cael ei defnyddio fel lleoliad ar gyfer 19 digwyddiad yn ystod y flwyddyn ac yn eu plith roedd Cynulliad Model CEWC, Ffug Gyngor Gweinidogion yr Undeb Ewropeaidd, cynhadledd Cyfranogiad Ieuenctid y Cynulliad a chynhadledd safon UG/U mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth (CBAC). Mae’r digwyddiadau hyn yn dangos ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allanol er mwyn deall yn well sut y gall unigolion chwarae rôl yn nemocratiaeth Cymru. 

Ym mis Medi 2008, lansiodd y Cynulliad system allgymorth addysg newydd ar gyfer de Cymru, ac ymwelwyd ag 80 o ysgolion a cholegau. Yn rhanbarthau gogledd Cymru a gorllewin a chanolbarth Cymru, cafodd 287 o ysgolion a cholegau gyflwyniadau drwy ein rhaglen allgymorth. Yn ystod y flwyddyn, rhoddodd y tîm addysg, gyda’i gilydd, gyflwyniadau a gweithdai i 683 o ysgolion a cholegau, gan gyrraedd cynulleidfa o 23,688 o ddisgyblion.

Cynrychioli buddiannau Cymru drwy dechnoleg

 

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ymroddedig i sicrhau ein bod yn dewis y ffyrdd mwyaf arloesol a defnyddiol o gyfathrebu â phobl Cymru. Wrth i dechnoleg newid, felly hefyd y mae disgwyliadau pobl o ran sut y gallant gyfathrebu â ni yn newid. Rydym yn ymrwymedig i ddefnyddio’r dulliau mwyaf modern a chynhwysol sydd ar gael i helpu pobl, gan gynnwys pobl nad ydynt yn ymddiddori yn y Cynulliad a’i waith fel arfer, i ddeall, ymgysylltu a chymryd rhan mewn democratiaeth yng Nghymru.

 

Ym mis Ebrill 2008, ehangodd y Cynulliad Cenedlaethol ei wasanaethau       e-ddemocratiaeth, gan gynnwys lansio ein system e-ddeisebu, gwell gwasanaeth gweddarlledu ‘Senedd.tv’, e-fforymau a chyfleuster ‘pleidleisio cyflym’ ar gyfer ymgynghoriadau ar-lein mewn perthynas ag ymchwiliadau pwyllgor.

 

Hefyd, mae tîm cyswllt â'r cyfryngau yn y Cynulliad wedi dechrau ar y gwaith o sicrhau ein bod yn rhoi gwybodaeth i newyddiadurwyr sy’n adlewyrchu eu hanghenion mewn cyfnod pan fo tirlun y cyfryngau yn newid yng Nghymru.  O fis Mawrth 2009 ymlaen, anfonwyd clip sain dwyieithog gyda bron pob stori a gafodd eu hanfon i’r cyfryngau, sy’n golygu bod gorsafoedd radio lleol mewn ardaloedd y tu allan i Gaerdydd yn gallu darparu gwybodaeth na fyddai ar gael iddynt fel arall.

 

At hynny, mae’r Cynulliad wedi cynnal adolygiad eang o wasanaethau a systemau technoleg gwybodaeth (TG), gan ganolbwyntio ar sut y gall y Cynulliad ddefnyddio TG i wella ein ffordd o weithio a’r ffordd yr ydym yn ymgysylltu â’r cyhoedd. Roedd yr adolygiad ‘iChange’ yn cynnwys ynghynghori ag Aelodau’r Cynulliad a nifer o staff cymorth ar draws yr holl bleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Cynulliad a staff y Cynulliad. Cafodd pawb eu hannog i roi eu barn am gryfderau a gwendidau systemau a gwasanaethau cyfredol a’r hyn y hoffent ei weld yn y dyfodol.

 

Ymhellach, mae Gwasanaeth Ymchwil Aelodau’r Cynulliad wedi cyflwyno gwasanaethau tracio ar-lein newydd i helpu’r cyhoedd i gael gwell dealltwriaeth o waith y pwyllgorau craffu a’r pwyllgorau deddfwriaeth. Gellir dod o hyd iddynt drwy’r gwefannau datblygiad ymchwiliadau gan Bwyllgorau Craffu  a datblygiad Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) a Mesurau.

 

Mae’r gwasanaeth nodiadau tracio pwerau'r Cynulliad yn darparu’r asesiad mwyaf cynhwysfawr sydd ar gael i’r Cynulliad a’r cyhoedd o gymhwysedd deddfwriaethol sy’n datblygu yn y Cynulliad a’r ddeddfwriaeth y daw ohoni. 

Cynrychioli eich buddiannau drwy ddeisebau

Enghraifft drawiadol arall o ddefnyddio technoleg i helpu pobl i weithio ar y cyd gyda’r Cynulliad Cenedlaethol yw’r system e-ddeisebu. Mae gan wasanaeth o’r fath y gallu i gyrraedd cymaint yn fwy o bobl na deiseb bapur draddodiadol ac mae’n gwneud y gwaith o gyflwyno deisebau yn llawer symlach.

 

Mewn cyfnod o ychydig dros ddau fis yn dilyn ei lansiad ym mis Ebrill 2008, cyfrannodd y system e-ddeisebu bumed rhan o’r holl ddeisebau ar gyfer y flwyddyn gyfan. Mae hyn yn dangos bod ffyrdd o ymgysylltu â’r Cynulliad sy’n hawdd i’w defnyddio yn helpu pobl i sylweddoli nid yn unig bod eu lleisiau a’u barn yn cael eu clywed ond bod camau yn cael eu cymryd i ymateb iddynt.

 

Yn ystod cyfnod yr adroddiad, cafodd y Pwyllgor ddeiseb gan glwb ieuenctid Ammanford Junior Gateway yn galw am gael cyfleusterau nofio am ddim drwy’r flwyddyn i blant a phobl ifanc, a oedd yn golygu bod 150 o ddeisebau erbyn hynny wedi dod i law. Cafodd y Pwyllgor y ddeiseb hon gan y deisebwyr yn y Pwll Cenedlaethol yn Abertawe. Roedd Ellie Simmonds a David Roberts, enillwyr y fedal aur yn y Gemau Paralympaidd, yno i gefnogi’r deisebwyr.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ei ymchwiliad cyntaf yn ystod y cyfnod hwn ar ddeiseb gan Gymdeithas Canŵio Cymru, a chyflwynodd adroddiad arno. Roedd y ddeiseb yn galw am newid yn y gyfraith i ganiatáu mynediad at ddŵr mewndirol ar gyfer gweithgareddau hamdden llai heriol. Fel rhan o’i ymchwiliad, aeth y Pwyllgor ar daith i weld yr afon Teifi yng ngorllewin Cymru lle cyfarfu ag amrywiaeth o dirfeddianwyr a phobl sy’n defnyddio’r dŵr. Cynhaliodd hefyd gyfarfod ffurfiol yn Senedd yr Alban, er mwyn dod i ddeall y sefyllfa yn yr Alban, lle cyflwynwyd hawl i fynediad rai blynyddoedd yn ôl.

 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi cynnal amrywiaeth o ymweliadau i gasglu tystiolaeth ar gyfer gwahanol ddeisebau a hefyd wedi cynnal cyfarfodydd ffurfiol mewn lleoliadau sy’n agosach i’r cymunedau y daw’r deisebau ohonynt. Maent wedi cynnal grwpiau trafod bach, ymweliadau â safleoedd a gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth; wedi cael tystiolaeth ar ffurf DVD ac wedi recordio clipiau fideo byr i roi gwybod i ddeisebwyr beth yw canlyniadau’r deisebau sydd ar gael ar dudalennau’r Pwyllgor Deisebau ar ein gwefan.

 

Cynrychioli’r Cynulliad yn y gymuned

 

Wrth baratoi ar gyfer dengmlwyddiant y Cynulliad yn 2009, cafwyd tystiolaeth bellach o ymrwymiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddemocratiaeth gyfranogol pan sefydlwyd y tîm Allgymorth a Chyfranogi. Mae pedwar o staff y Cynulliad, ym mhedwar gwahanol ran o Gymru, yn gyfrifol am sefydlu partneriaethau gyda sefydliadau ac unigolion lleol i annog mwy o bobl i gyfranogi yng ngwaith y Cynulliad a gwella eu dealltwriaeth o ddatganoli.

 

Yn ystod y flwyddyn, lansiwyd bws allgymorth y Cynulliad. Bydd y bws yn teithio yn bennaf o amgylch gogledd Cymru, a bydd yn golygu bod y Cynulliad yn dod at garreg drws pobl yng nghymunedau ar draws y Gogledd, gan alluogi pobl i gael mynediad at waith y Cynulliad ac i fynegi barn.


Arweiniodd y Llywydd ymgyrch i annog mwy o bobl sy’n draddodiadol wedi wynebu rhwystrau i gyfranogiad i ymgysylltu â’r Cynulliad, drwy gynnal taith o bum rhanbarth etholiadol Cymru er mwyn siarad â grwpiau cynrychiadol i glywed eu barn am sut y gallwn gywiro’r sefyllfa. Dechreuodd y daith yn Abertawe, lle ymwelodd y Llywydd â’r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd. Yna cyfarfu â chynrychiolwyr grwpiau lleiafrifoedd ethnig.
Cyfarfu’r Llywydd â grwpiau plant a phobl ifanc, pobl anabl, grwpiau ffydd a Stonewall Cymru er mwyn canfod sut y gall y Cynulliad weithio yn rhagweithiol gyda’r grwpiau hynny i sicrhau ei bod yn haws iddynt gael mynediad at ddemocratiaeth. Roedd hwn yn ddechrau ar ymrwymiad i weithio’n agosach fyth gyda grwpiau o’r fath i sefydlu democratiaeth sydd yn wirioneddol gynrychiadol.

 

Yn ystod 2008-2009, cyflawnwyd gwaith gan y Cynulliad a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gynllun mentora ar y cyd ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Bydd y cynllun yn rhoi cyfle i unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ddysgu mwy am ddemocratiaeth yng Nghymru drwy ddilyn arferion gweithio eu mentoriaid gwleidyddol penodedig, gan ddysgu mwy am eu rôl a chyfrifoldebau, a’u hannog i fod yn fwy gweithredol ym mywyd y gymuned.

 

 

Cynrychioli Cymru dramor

 

Yn ystod y flwyddyn, mae swyddfa’r Cynulliad Cenedlaethol ym Mrwsel wedi parhau â’r gwaith o gynrychioli buddiannau Cymru yn Ewrop, ac eleni mae wedi bod yn gweithio’n agos gyda Christine Chapman AC mewn perthynas â gwaith Pwyllgor y Rhanbarthau ar ddyfodol Cytuniad Lisbon.

 

Aeth Rosemary Butler AC, Dirprwy Lywydd y Cynulliad, i gyfarfod blynyddol CALRE (Cynhadledd Cynulliadau Deddfwriaethol Rhanbarthol Ewrop) yn Bilbao.

 

Mae rhai o Aelodau’r Cynulliad yn cynrychioli Cymru ar Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad (CPA). Cynrychiolodd Janet Ryder AC a Nerys Evans AC Gynulliad Cenedlaethol Cymru yng nghynhadledd flynyddol y Gymdeithas a gynhaliwyd yn Kuala Lumpur , Malaysia. Roedd Alun Cairns AC hefyd yn bresennol yn rhinwedd ei rôl fel Cynrychiolydd Rhanbarthol y DU. Thema’r gynhadledd lawn eleni oedd ehangu rôl y senedd mewn cymdeithas fyd-eang (‘Expanding the Role of Parliament in Global Society: Environment, Development and Security’). Roedd dros 600 o seneddwyr o 9 rhanbarth y Gymanwlad yn bresennol yn y gynhadledd, yn cynrychioli 50 gwlad a dros 160 o seneddau a deddfwrfeydd.

 

Dros y flwyddyn, mae Aelodau’r Cynulliad wedi croesawu nifer o ymwelwyr o wledydd y Gymanwlad i’r Cynulliad, gan gynnwys:

 

·         Yr Anrhydeddus (Richard) George Richard Torbay, Llefarydd y Cynulliad Deddfu, Senedd De Cymru Newydd ynghyd â Russell Grove, Clerc i’r Senedd – Ebrill 08

·         Yr Anrhydeddus Don Harwin, Aelod o’r Cyngor Deddfu, Senedd De Cymru Newydd  – Ebrill 08

·         Yr Anrhydeddus Don Wing, Llywydd y Cyngor Deddfu a Mr David Pearce, Clerc y Cyngor Deddfu, Senedd Tasmania
 – Mai 08

·         Yr Anrhydeddus Hlomohang Morokole, Is-lywydd Senedd Lesotho
 – Tachwedd 08

 

Cynhaliodd aelodau’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol ddau ddiwrnod o gyfarfodydd anffurfiol preifat ym Mrwsel â chynrychiolwyr nifer o sefydliadau Ewropeaidd. Drwy’r cyfarfodydd hyn, cafwyd gwybodaeth amhrisiadwy i gynorthwyo’r Pwyllgor yn ei waith o graffu ar faterion o bwys sy’n effeithio ar Gymru, gan gynnwys camau sy’n cael eu cymryd ar lefel yr UE i fynd i’r afael â’r argyfwng economaidd ac ariannol, dyfodol ariannu’r polisi cydlyniant ac effaith y Polisi Amaethyddol Cyffredin.

 

 

 

 

Edrych i’r dyfodol

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Cynulliad wedi paratoi’r ffordd ar gyfer nifer o ffyrdd newydd ac arloesol o helpu pobl i gael gwell dealltwriaeth o’r Cynulliad a’i waith, ac i annog pobl i gymryd rhan yn y broses o wneud deddfau i Gymru ac i helpu i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

 

Mae’r gwaith o ailwampio adeilad y Pierhead wedi cychwyn, sef yr adeilad ger y Senedd sy’n gefndir i fwletinau newyddion dyddiol BBC Cymru a ITV Cymru. Mae’n rhan o ystâd y Cynulliad, a helpodd Cymru i ffurfio ei hunaniaeth “wrth ddŵr a thân yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i’w newid i fod yn lle a fydd yn argyhoeddi, yn cynrychioli ac yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd i ffurfio tirlun gwleidyddol y dyfodol.

 

 

 

 


2. Deddfu ar gyfer Cymru

 

Wrth i’r Cynulliad sefydlu ei hun fel deddfwrfa aeddfed, mae’n ddiddorol edrych yn ôl er mwyn gwerthfawrogi sut mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi newid tirlun deddfwriaethol Cymru.

 

Rhwng 1945 a 1999, dim ond 11 o Ddeddfau a oedd yn berthnasol i Gymru’n unig a gafodd eu pasio gan Senedd y DU – cyfartaledd o un bob pum mlynedd. Rhwng 1999 a 2007, cafodd wyth Deddf arall ‘Cymru’n unig’ eu pasio; cyfartaledd felly o un Ddeddf “Gymreig” bob blwyddyn.

Roedd dydd Mawrth 6 Mai 2008 yn ddiwrnod hanesyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, pan gafodd y Mesur Cynulliad cyntaf erioed ei basio, sef y Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2007. Dyma oedd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth sylfaenol a wnaeth y Cynulliad Cenedlaethol, y ddeddf Gymreig gyntaf i gael ei phasio ers y ddegfed ganrif a’r ddeddf ddwyieithog gyntaf erioed i gael ei phasio ym Mhrydain.

Yn ogystal â hynny, rhwng mis Mai 2008 a 31 Mawrth 2009:

·         cafodd pedwar Mesur Cynulliad eu pasio;

·         cafodd tri Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol eu gwneud yn rhoi pwerau deddfwriaethol i’r Cynulliad;

·         roedd saith Gorchymyn arall wedi bod drwy broses graffu cyn deddfu, gan gynnwys dau a gynigiwyd gan Aelodau meinciau cefn;

·         cyflwynwyd y Mesur Arfaethedig Pwyllgor cyntaf yn ystod 2008/09 – sef Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a ddatblygwyd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a oedd yn cynnig rhoi swyddogaeth statudol i’r Comisiynydd Safonau.

 

Er mwyn cyflawni hyn, dilynwyd y camau canlynol:

·         cynhaliodd y pwyllgorau deddfwriaeth 85 o gyfarfodydd i drafod pob Gorchymyn a Mesur arfaethedig, a chynhyrchwyd saith o adroddiadau;

·         cyfarfu’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth 32 o weithiau ac adrodd yn ôl ar bob Offeryn Statudol a Mesur arfaethedig a osodwyd ac mae wedi cychwyn craffu ar Fesurau’r DU;

·         cynhaliodd y Llywydd wyth balot ar gyfer deddfwriaeth arfaethedig Aelod – pedwar yn cynnig Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol a phedwar yn cynnig Mesurau Cynulliad.

 

Caiff manylion llawn ar gynnydd Gorchmynion a Mesurau eu casglu gan Wasanaeth Ymchwil Aelodau’r Cynulliad a gellir eu gweld yma ar wefan y Cynulliad.

Pan gaiff Mesurau’r Cynulliad eu cymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor, maent yn dod o dan Hawlfraint y Goron, a rhaid iddynt gynnwys arwyddlun addas wrth eu cyhoeddi. Cafwyd trafodaethau, felly, rhwng y Cynulliad a’r Coleg Arfbeisiau i ddatblygu arwyddlun brenhinol a fyddai’n nodweddiadol Gymreig ei natur ac a fyddai’n briodol ar gyfer nodi natur unigryw Mesurau’r Cynulliad fel deddfwriaeth ar gyfer Cymru.

Cafodd Bathodyn Brenhinol Cymru ei ddadorchuddio yn ystod y flwyddyn, a bydd yn ymddangos ar holl Fesurau’r Cynulliad. Mae’n seiliedig ar arfbeisiau tywysogion brodorol Cymru, gan ddyddio yn ôl i’r drydedd ganrif ar ddeg, ac a ddefnyddir hefyd gan Dywysog Cymru ar y faner a gaiff ei defnyddio ganddo yng Nghymru.

Ymateb i’r tirlun deddfwriaethol newydd

 

Mae gweddnewidiad mor fawr â hyn wedi arwain hefyd at newidiadau strwythurol a gweithdrefnol sylweddol er mwyn ymateb i’r cynnydd yn llwyth gwaith deddfwriaethol pwyllgorau’r Cynulliad. Mae’r pwyllgorau wedi mynd ati i chwilio am ffyrdd arloesol o ehangu’r ffordd y mae’r cyhoedd yn cymryd rhan yn y modd y mae’r Cynulliad yn deddfu ar gyfer Cymru.

 

Er enghraifft, roedd y Pwyllgor a oedd yn craffu ar y Mesur Arfaethedig Bwyta’n Iach mewn Ysgolion yn teimlo ei bod yn bwysig ymgynghori â phlant a phobl ifanc y byddai’r ddeddfwriaeth hon yn effeithio arnynt. I’r diben hwn, anfonwyd holiadur a oedd yn seiliedig ar y deg darpariaeth o fewn y Mesur arfaethedig at sampl o ddeg y cant o ysgolion yng Nghymru i asesu barn y disgyblion. Cafwyd dros 700 o ymatebion a fu o gymorth i lywio’r gwaith o lunio adroddiad y Pwyllgor.

 

Ymateb y Cynulliad i’r newid yn y tempo deddfwriaethol oedd sefydlu pum Pwyllgor deddfwriaeth parhaol, a Chadeirydd annibynnol heb bleidlais ar bob un ohonynt. Mae un yn ymdrin yn bennaf â deddfwriaeth a gyflwynir gan Aelod neu bwyllgor a’r pedwar arall yn ymdrin â deddfwriaeth arfaethedig a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn wedi arwain at reoli llif deddfwriaeth drwy’r Cynulliad yn well. Mae hefyd wedi arwain at greu grwpiau o Aelodau a Chadeiryddion sydd ag arbenigedd cynyddol yn y dasg arbenigol o graffu ar ddeddfwriaeth.

 

 

Craffu ar ddeddfwriaeth ar gyfer Cymru

 

Mae nifer o Bwyllgorau eraill hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o archwilio Mesurau’r Cynulliad, Gorchmynion Cymwyseddau Deddfwriaethol a Mesurau’r DU a’u heffaith ar Gymru.

 

Bu Pwyllgor Cyllid y Cynulliad yn ystyried effeithiau ariannol pedwar Mesur arfaethedig ar Gymru a chyflwynodd adroddiad i adlewyrchu hyn, a hynny ar y sail y bydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried canlyniadau’r ddeddfwriaeth newydd wrth osod ei chyllideb os caiff y Mesurau hyn eu pasio. Bydd y Pwyllgor Cyllid yn edrych yn fanwl ar effeithiau ariannol unrhyw Fesur arfaethedig er mwyn sicrhau bod y costau wedi’u cyfrifo’n gywir cyn iddo gael ei wneud yn gyfraith.

 

Yn ystod yr hydref a’r gaeaf, cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Dysgu waith craffu cyn deddfu ar ddeiseb a gyflwynwyd gan Sustrans i’r Cynulliad a oedd yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud cais am bwerau a fyddai’n gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu a chynnal rhwydwaith o lwybrau didraffig y gellir eu rhannu rhwng cerddwyr, beicwyr a phobl anabl ledled Cymru.

 

Ymgynghorodd y Pwyllgor yn eang, a’r cydsyniad cyffredinol ymysg y rhai a ymatebodd oedd y dylai cymhwysedd deddfwriaethol gael ei roi i’r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â’r mater hwn.

 

Y farn oedd y byddai rhwydwaith o lwybrau di-draffig yn annog mwy o bobl i fabwysiadu ffyrdd fwy iach o fyw ac y byddai’n helpu i leihau’r defnydd o geir preifat. Byddai hyn, yn ei dro, yn helpu i fynd i’r afael â’r heriau o ran newid hinsawdd ac o fudd i dwristiaeth a’r economi leol.

 

Canlyniad hyn oedd i’r Pwyllgor gael ei argyhoeddi y byddai buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol y cynllun yn sicrhau ei gynaliadwyedd hirdymor, ac mae’n gobeithio cynnig deddfwriaeth i sicrhau y bydd hyn yn digwydd.

 

Craffu ar ddeddfwriaeth arall sy’n effeithio ar Gymru

 

Mae pwyllgorau’n chwarae rhan bwysig hefyd wrth graffu ar fathau eraill o ddeddfwriaeth a fydd yn effeithio ar Gymru.

 

Bu’r Pwyllgor Cynaliadwyedd yn craffu ar Fesur Cynllunio’r DU er mwyn cael eglurhad o’i effeithiau ar Gymru, yn arbennig o ran sefydlu Pwyllgor Cynllunio Seilwaith a phwy fyddai’n gyfrifol am benderfyniadau cynllunio. Holodd y Pwyllgor y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai ynghylch y Mesur Seneddol a gwnaeth nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru,  gyda’r nod o ddiogelu buddiannau Cymru o fewn cyd-destun y Mesur Seneddol, yn arbennig o ran yr angen i drosglwyddo’r pwerau angenrheidiol i Gymru.

 

Ar gais Pwyllgor Dethol Arloesedd, Prifysgolion, Gwyddoniaeth a Sgiliau Tŷ’r Cyffredin, ymatebodd y Pwyllgor Menter a Dysgu i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y Mesur Prentisiaethau Drafft. Cafodd y Mesur Seneddol drafft ei ddrafftio mewn ffordd a oedd yn berthnasol i Loegr yn unig. Roedd y Pwyllgor am i Lywodraeth Cymru egluro’r modd y byddai’n bosibl ymgorffori cymalau Cymreig yn y Mesur Seneddol. Holodd y Pwyllgor John Griffiths AC, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, mewn cyfarfod ym mis Mawrth. Barn y Pwyllgor oedd bod y broses ddeddfwriaethol ar gyfer ymgorffori cymalau Cymreig mewn Mesurau o bwys yn Senedd y DU yn anfoddhaol ac nad oes digon o le ar gyfer gwaith craffu trylwyr naill ai yn San Steffan nac yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Nododd Pwyllgor Tŷ’r Cyffredin ei bod yn amlwg nad yw’r ymgynghoriad ar weithredu prentisiaethau yng Nghymru ac ar weithredu’r ddeddfwriaeth ddrafft yng Nghymru wedi bod yn ddigonol. Felly mae wedi argymell bod y Llywodraeth yn cywiro’r diffyg hwn cyn i’r darpariaethau yn y Mesur Seneddol drafft gael eu cwblhau.

 

Bu’r Pwyllgor Cynaliadwyedd yn craffu ar y Mesur Newid yn yr Hinsawdd y DU gan ei fod yn cynnwys nifer o ddarpariaethau a fydd yn effeithio’n sylweddol ar Gymru. Gwnaeth y Pwyllgor nifer o argymhellion i sicrhau bod y Mesur Seneddol yn adlewyrchu’n llawn flaenoriaethau a buddiannau Cymru. Roedd y rhain yn canolbwyntio’n arbennig ar yr angen i sicrhau y rhoddir mwy o bwyslais ar y targedau a’r amcanion yn y Mesur Seneddol i fynd i’r afael â Newid yn yr Hinsawdd, a bod y targedau a’r amcanion yn fwy clir.

 

Er mwyn mabwysiadu ffordd ragweithiol o archwilio’r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru a’r Cynulliad gan Fesurau’r DU, mae’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth bellach yn ceisio:

 

·         nodi’r pwerau ym Mesurau’r DU sy’n berthnasol i Gymru ac ystyried a ddylai unrhyw bwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gael eu rhoi i Weinidogion Cymru;

·         ystyried a yw gweithdrefnau ar gyfer gwneud is-ddeddfwriaeth yn briodol, pan fydd pwerau wedi cael eu rhoi i Weinidogion Cymru ym Mesurau’r DU;

·         ystyried a ddylai Llywodraeth Cymru wneud cais am bwerau i wneud Mesurau, yn hytrach na phwerau dirprwyedig i Weinidogion, pan fydd Mesurau Seneddol yn ymwneud â meysydd o fewn Atodlen 5 i Ddeddf 2006.

 

Dechreuodd y Pwyllgor ar y gwaith hwn drwy gyflwyno adroddiad ar y Mesur Seneddol Atodiad Ardrethi Busnes a fydd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru. Mae’r adroddiad yn amlinellu barn y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru fod yn manteisio ar y cyfleoedd a gaiff eu cynnig gan y Mesurau Seneddol hyn, er mwyn gwneud cais am bwerau i basio Mesurau Cynulliad.

 

Edrych i’r dyfodol

 

Wrth i bwerau deddfu’r Cynulliad dyfu, bydd y pwyllgorau deddfwriaeth yn canolbwyntio ar sicrhau gwaith craffu trylwyr ar ddeddfwriaeth gan gynnwys cyfraniadau gan sefydliadau cymdeithas sifil a hefyd gan bobl Cymru y bydd yn effeithio arnynt.

 

Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn yn ceisio codi ymwybyddiaeth o swyddogaeth ddeddfu’r Cynulliad a helpu sefydliadau allanol ac unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith i ddeall sut i ymgysylltu â swyddogaeth y Cynulliad fel deddfwrfa – ac, yn bennaf, i nodi pryd yn ystod y broses ddeddfu y gall eu cyfraniad effeithio ar y deddfau a gaiff eu gwneud. 

 

Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth yn edrych yn fanylach ar y pwerau a roddir i’r Cynulliad a Gweinidogion Cymru gan Ddeddfau Seneddol y DU, er mwyn sicrhau ein bod yn edrych yn eang ar ddatblygiad cyfansoddiadol Cymru.  

 

Rydym hefyd yn gobeithio rhyngweithio mwy â phobl ifanc ac ysgolion drwy dîm addysg y Cynulliad, er mwyn casglu safbwyntiau am gyfreithiau arfaethedig i Gymru a allai effeithio’n uniongyrchol arnynt hwy neu ar eu haddysg. Byddwn hefyd yn defnyddio technoleg newydd ac arloesol yn ogystal â gweithgareddau allgymorth traddodiadol i sicrhau y gall pobl Cymru gymryd rhan gynyddol yn y broses.


3. Dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif

 

Mae craffu’n effeithiol ar waith llywodraeth yn ganolog i unrhyw broses ddemocrataidd, a chynhelir y gwaith hwn gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn nifer o ffyrdd, gyda staff y Cynulliad yn chwarae rhan bwysig wrth ganiatáu i Aelodau’r Cynulliad ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Er bod llawer o’r gwaith hwn yn cael ei wneud drwy’r pwyllgorau craffu (gweler yr adran isod), bydd y Cynulliad yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn nifer o ffyrdd eraill.

 

Dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn y Siambr

Cynhelir y Cyfarfod Llawn yn y Siambr, siambr drafod y Senedd, ar brynhawn dydd Mawrth a dydd Mercher rhwng 13.30 a 18.00, a chaiff ei gadeirio gan y Llywydd neu’r Dirprwy Lywydd.

Cynhaliwyd 71 Cyfarfod Llawn rhwng mis Ebrill 2008 a mis Mawrth 2009.

 

Cwestiynau’r Cynulliad

 

Un o’r prif ffyrdd y gall Aelodau’r Cynulliad ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yw trwy gwestiynau’r Cynulliad, a gellir eu defnyddio i gael gwybodaeth neu i bwyso am weithredu. Ceir dau fath gwahanol o gwestiynau, sef cwestiynau llafar a chwestiynau ysgrifenedig.

 

Gall Aelodau ofyn cwestiynau llafar yn uniongyrchol i Brif Weinidog Cymru a Gweinidogion eraill Cymru. Gofynnir cwestiynau i Brif Weinidog Cymru ar ddydd Mawrth a chaiff cwestiynau eraill eu rhoi gerbron y Gweinidogion eraill a’r Comisiwn ar ddydd Mawrth a dydd Mercher.

 

Yn ystod y cyfnodau hyn, dewisir 15 cwestiwn ar hap mewn cymysgiad awtomatig a gynhelir ar ran y Llywydd. Yna, caiff Aelodau'r cyfle i ofyn cwestiynau atodol heb rybudd.

 

Yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn, cyflwynwyd cyfanswm o 4,990 o gwestiynau llafar. Ceir rhestr isod yn nodi i bwy y gofynnwyd y cwestiynau hyn:

 

 

Nifer y cwestiynau llafar a gyflwynwyd

Prif Weinidog Cymru

1,046

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

585

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

557

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

538

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

503

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

465

Y Gweinidog dros Dreftadaeth

438

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cymdeithasol

416

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig

398

Y Cwnsler Cyffredinol

26

Comisiwn y Cynulliad

18


Ar ôl y cwestiynau llafar, gall y Llywydd ganiatáu amser ar gyfer unrhyw gwestiynau brys y Cynulliad na roddir rhybudd yn eu cylch ac sydd o bwys cyhoeddus brys. Yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn, gofynnwyd chwe chwestiwn brys ar bynciau a oedd yn amrywio o golli swyddi yng Nghymru i ddatblygu ffermydd gwynt.

 

Gellir cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig unrhyw bryd a chânt eu hateb yn ysgrifenedig. Caiff unrhyw gwestiwn llafar na chaiff ei ofyn o fewn y cyfnod penodedig hefyd ei ateb yn ysgrifenedig a bydd yn ymddangos yng Nghofnod y Trafodion. Cyflwynwyd 2,242 o gwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad yn ystod y cyfnod hwn.

 

Pwyllgorau sy’n dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif

 

Fel rhan o’u rôl yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, bydd pwyllgorau’r Cynulliad yn edrych yn fanwl ar faterion fel sut y mae Gweinidogion Cymru yn gwario arian cyhoeddus a pha mor effeithiol y mae polisïau’n bodloni amcanion. Yn gryno, mae pwyllgorau craffu’r Cynulliad Cenedlaethol yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn atebol am ei gweithrediadau, a hynny ar ran pobl Cymru.

Bydd pwyllgorau yn argymell ffyrdd y gall polisïau Llywodraeth Cymru fod yn fwy cadarn a’i gwariant fod yn fwy effeithiol, effeithlon a darbodus. Bydd pwyllgorau hefyd yn gweithio gydag unigolion a sefydliadau mewn ffordd ragweithiol ac arloesol, a rheini’n unigolion a sefydliadau sy’n gallu mynegi safbwyntiau a phrofiadau pobl Cymru.

Yn ystod y flwyddyn, cynhaliodd y Cynulliad 257 o gyfarfodydd craffu nad ydynt yn rhai deddfwriaethol.

Helpu Aelodau’r Cynulliad i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif

 

Mae Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn darparu gwasanaethau ymchwil a gwybodaeth diduedd, annibynnol ac arbenigol er mwyn cynorthwyo Aelodau’r Cynulliad ym mhob agwedd ar eu gwaith fel cynrychiolwyr etholedig ac er mwyn sicrhau gwaith craffu a deddfwriaeth o’r ansawdd gorau.

 

Yn ystod 2008/09, darparwyd cyngor a chymorth i Aelodau’r Cynulliad ar ffurf gwaith ymchwil a gwybodaeth, a hynny mewn amryw o feysydd: drwy wasanaeth ymchwil unigol, drwy gynhyrchu ymchwil rhagweithiol i lywio dadl a thrwy roi cymorth a chyngor i Aelodau’r Cynulliad ar ffurf ymchwil wrth iddynt gynnal gwaith craffu a  gwneud cyfreithiau.

 

Yn ystod y flwyddyn, cynhyrchwyd 3,593 darn o waith ysgrifenedig gan Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau, gan cynnwys 3,428 o ymatebion i ymholiadau unigol a 579 o ddarnau o waith ymchwil a oedd yn sail i waith Aelodau’r Cynulliad wrth iddynt naill ai ddwyn Gweinidogion Cymru i gyfrif mewn pwyllgorau craffu neu wrth iddynt wneud cyfreithiau i Gymru mewn pwyllgorau deddfwriaeth.

 

 

 

Cynnwys pobl Cymru wrth ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif

Fel rhan o ymrwymiad y Cynulliad i sicrhau bod safbwyntiau pobl Cymru yn sail i’n holl waith, yn cynnwys dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif,  ymgymrodd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol â ffyrdd arloesol o gynnwys y cyhoedd yn ei ymchwiliad ar ganiatâd tybiedig i roi organau yng Nghymru.

Yn ogystal â fforymau trafod ar-lein ar wefan y Cynulliad, lluniwyd dau holiadur byr i’w defnyddio mewn ysgolion ac yn adeiladau’r Cynulliad Cenedlaethol ac roedd hefyd modd pleidleisio ar y mater hwn ar-lein. Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau oedd yn gyfrifol am lunio’r holiadur, a bu’n gweithio’n agos â thîm Cyfathrebu Allanol a thîm Addysg y Cynulliad i weithredu’r prosiect. Cafodd tua 900 o holiaduron eu dychwelyd a’u dadansoddi, a defnyddiwyd y sylwadau ansoddol a wnaed ar yr holiaduron i lywio corff yr adroddiad a chafodd y dadansoddiadau hyn eu cynnwys mewn Atodiad i’r adroddiad.

Arweiniodd cynllun deisebu’r Cynulliad Cenedlaethol at ymgynghoriad proffil uchel arall i herio polisïau Llywodraeth y Cynulliad. Roedd menter y BBC “If I ruled the world” yn amlygu pryderon ynghylch defnyddio bagiau plastig yng Nghymru. Amlygwyd y mater hwn gan gyfranogwr a benderfynodd gyflwyno deiseb ar-lein i’r Cynulliad, yn awgrymu y dylid codi ffi ar gyfer pob bag plastig yng Nghymru.

Yn dilyn hyn, cyfarfu’r Pwyllgor Cynaliadwyeddag amrywiaeth o bartïon eraill sydd â diddordeb, o gynhyrchwyr bagiau plastig i archfarchnadoedd mawr, ac ymwelwyd hefyd â’r Iwerddon lle y mae ffi eisoes wedi’i godi ar fagiau plastig. Cynhyrchodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn argymell y dylid codi ffi ar bob bag plastig yng Nghymru, ac ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar hyn.

 

Ar ddechrau’r ymchwiliad i gynhyrchu a hybu bwyd Cymreig ym mis Ionawr, cynhaliodd yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig drafodaeth â rhanddeiliaid allweddol. Roedd y Cadeirydd yn awyddus i roi’r gorau i’r fformat mwy ffurfiol ar gyfer cyfarfodydd er mwyn ceisio deall yn well y materion gwirioneddol y mae’r diwydiant bwyd yn eu hwynebu yng Nghymru, ac felly cytunwyd mai’r bobl oedd yn cymryd rhan yn y cyfarfod oedd yn gyfrifol am lunio’r agenda o ran y materion roeddent am eu codi.

 

Cyn hynny, cynhaliodd yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ymchwiliad i ad-drefnu ysgolion yng nghefn gwlad Cymru, a oedd yn deillio o ddeiseb gan grŵp o rieni ym Mhowys. Roedd yr ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â’r addysg a ddarperir mewn ysgolion cynradd gwledig, fel y materion cymdeithasol ac addysgol sy’n gysylltiedig ag ad-drefnu ysgolion cynradd ac effaith hyn ar gymunedau. Bu hefyd yn ystyried digonolrwydd y polisïau a’r canllawiau presennol sy’n mynd i’r afael â’r materion ehangach sy’n gysylltiedig ag ad-drefnu ysgolion cynradd gwledig a rôl Estyn yn y cyd-destun hwn. 

 

Penderfynodd y Pwyllgor Menter a Dysgu weithio’n anffurfiol er mwyn cynnal ymchwiliad i’r cymorth sydd ar gael i bobl â dyslecsia yng Nghymru. Roedd y Pwyllgor am roi dinasyddion Cymru wrth wraidd ei waith craffu ac felly cyfarfu â phlant â dyslecsia a’u teuluoedd yn ystod bore coffi anffurfiol er mwyn rhoi cyfle iddynt fynegi eu barn yn agored i aelodau’r Pwyllgor. Roedd hwn hefyd yn gyfle i aelodau’r Pwyllgor glywed tystiolaeth yn uniongyrchol gan y rheini â dyslecsia o ran y rhwystrau y maent hwy a’u teuluoedd yn eu hwynebu’n ddyddiol.

 

Roedd tua 25 o bobl yn bresennol ym mhob bore coffi, a nodwyd fod y sefyllfa hon o fudd i rieni’r plant gan ei fod yn gyfle iddynt fynegi eu pryderon i aelodau’r Pwyllgor a cheisio cyngor gan amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol yn y maes.

 

Wrth ymchwilio i wasanaethau eirioli ar gyfer plant a phobl ifanc, cyfarfu aelodau o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc â phobl ifanc o amrywiaeth eang o oedrannau a chefndir, a hynny mewn saith lleoliad yng Nghymru. Roeddent am sicrhau bod y trafodaethau’n cael eu cynnal mewn amgylchedd lle byddai plant a phobl ifanc yn teimlo’n gyfforddus ac yn gallu siarad am faterion anodd neu sensitif heb deimlo’n swil. 

 

Cafodd y canfyddiadau eu bwydo yn ôl i’r Pwyllgor a chafodd y bobl ifanc a gymerodd ran eu gwahodd i lansiad adroddiad y Pwyllgor er mwyn gweld pa wahaniaeth roedd eu sylwadau wedi’i gael ar waith y Cynulliad.

 

Ar ôl i etholwyr fynegi pryderon i Aelodau’r Cynulliad, cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad byr ym mis Mai 2008 i edrych ar oblygiadau ariannol y Cyfnod Sylfaen, a fyddai’n cynnig ffordd newydd ac arloesol o ddarparu addysg i blant tair i saith oed. Yn dilyn ymchwiliad y Pwyllgor, newidiwyd y ffordd o gyflwyno’r Cyfnod Sylfaen i ffordd fwy cyfnodol, a hynny er mwyn gallu cyflawni’r polisi yn unol â lefel yr adnoddau a neilltuir ar ei gyfer.

 

Fel rhan o’i ymchwiliad i faterion sy’n effeithio ar weithwyr mudol yng Nghymru, a’r cymunedau y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt, ymwelodd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal â chanolfan eirioli a chyngor ar gyfer gweithwyr mudol yn Wrecsam. Cyfarfuwyd â phobl hŷn yng Ngogledd a Gorllewin Cymru er mwyn cael gwybodaeth uniongyrchol am brofiadau pobl fel rhan o’i ymchwiliad i wasanaethau addasu a chynnal a chadw cartrefi ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.

 

Yn ystod ei ymchwiliad i rianta yng Nghymru, bu’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn trafod y materion a godwyd o’i ymchwiliad â thua 30 o rieni a gyfarfu â hwy yn y Senedd ac yn sir y Fflint. Cyn y cyfarfod, rhoddwyd gwybodaeth i’r rhieni am y Pwyllgor a’r gwaith a wnaeth ar yr ymchwiliad hwn. Cyfarfu’r rhieni mewn grwpiau bach gydag aelod o’r Pwyllgor a byddai’r aelod hwnnwwedyn yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor cyfan ar y syniadau a drafodwyd. Dywedodd yr aelodau fod y dystiolaeth a ddarparwyd gan rieni yn y digwyddiadau hyn wedi bod o fudd dirfawr i’w hadroddiad terfynol.

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad eang ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant i gam-drin domestig a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael yng Nghymru a chasglwyd dystiolaeth gan unigolion sydd wedi goroesi cam-drin domestig. Roedd rhai o’r bobl yr ymgynghorwyd â hwy yn byw mewn noddfeydd a rhoesant ganiatâd i aelodau’r Pwyllgor fynd i ymweld â hwy er mwyn rhoi cyfle iddynt fynegi barn. Roedd cwmpas eang ymchwiliad y Pwyllgor yn caniatáu iddynt ymchwilio i gryfderau a gwendidau'r strategaeth trais domestig presennol a gwneud argymhellion cadarn ynghylch beth arall sydd angen ei wneud.

 

Bu’r Pwyllgor Darlledu yn canolbwyntio ar ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg, a bu hefyd yn adolygu effaith bosibl y newid i’r digidol ar fywyd yng Nghymru. Sefydlwyd y Pwyllgor yn ystod tymor yr haf a daeth i ben ar 18 Gorffennaf 2008 ar ôl cyhoeddi ei adroddiad. Cafwyd cyfraniadau gan ddarlledwyr yng Nghymru a’r DU ac arweiniodd hyn at adroddiad cynhwysfawr a gafodd cyhoeddusrwydd sylweddol yng Nghymru a thu hwnt. Cafodd y gwaith hwn ei barhau gan y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant, a chyflwynodd adroddiad ar ei ganfyddiadau ym mis Mai 2009.

 

Mae’r Pwyllgor Archwilio yn hyrwyddo’r ffaith y caiff Cymru ei llywodraethu mewn ffordd effeithiol ac effeithlon ac mae’n ystyried y ffordd y caiff polisïau Llywodraeth Cymru eu gweithredu er mwyn sicrhau gwerth am arian. Eleni, canolbwyntiodd y Pwyllgor ar faterion yn ymwneud ag iechyd a fyddai’n effeithio’n uniongyrchol ar bobl ledled Cymru. Ym mis Mai, cyhoeddodd adroddiad ar leihau nifer yr heintiau a geir drwy gysylltiad â’r system gofal iechyd yng Nghymru, ac ym mis Hydref 2008, cyflwynodd y Pwyllgor adroddiad ar Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Yn sgil ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad, galwodd y Pwyllgor ar y Swyddog Cyfrifyddu i roi rhagor o dystiolaeth a lansiodd ymchwiliad pellach i’r materion hyn gan nad oedd yn teimlo fod digon o gynnydd wedi’i wneud. 

 

Edrych i’r dyfodol

 

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos y manteision sy’n gysylltiedig â chynyddu ymgysylltiad yng ngwaith y Cynulliad, a byddwn yn parhau i roi pwyslais cryf ar nod strategol y Cynulliad o gynyddu cyfranogiad yn y broses ddemocrataidd.

Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i edrych am ffyrdd hyblyg ac arloesol o wneud hyn. Er enghraifft, mae bws allgymorth y Cynulliad yn rhoi cyfle i bobl wneud sylwadau ar waith y Cynulliad ar fideo a hefyd yn cynnig cynnal cyfarfodydd mewn gwahanol rannau o Gymru i gasglu tystiolaeth ar gyfer ymchwiliadau gan bobl yr effeithir arnynt gan faterion gwahanol. Felly, gellir casglu nodiadau o’r cyfarfodydd yn ogystal â’r dystiolaeth fideo a’u dangos i bwyllgor mewn cyfarfod ffurfiol a’u defnyddio fel tystiolaeth ffurfiol.

Byddwn hefyd yn defnyddio cyfraniadau fideo pobl, er enghraifft darnau o ffilm ar ffonau symudol a ffotograffau sy’n adlewyrchu eu profiad o unrhyw faterion y mae pwyllgor yn eu trafod ac y gellir eu defnyddio ar wefan y Cynulliad yn ogystal â’u defnyddio fel tystiolaeth ac enghreifftiau yn adroddiad terfynol yr ymchwiliad.

Bydd pwyllgorau’r Cynulliad hefyd yn datblygu’r syniad o grwpiau cyfeirio rhithwir a gwirioneddol ymhellach, lle y gallai grwpiau cyfeirio rhithwir o randdeiliaid allweddol helpu i ganfod materion yn gyflym. Gellid defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd am y math hwn o grŵp i graffu ar waith Gweinidogion ar draws portffolios ar y materion dan sylw, o bosibl drwy ymchwiliadau byr i’r materion hynny.